Exodus 1

Pobl Israel yn gaethion yn yr Aifft

1Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd: 2Reuben, Simeon, Lefi a Jwda, 3Issachar, Sabulon a Benjamin, 4Dan a Nafftali, Gad ac Asher. 5Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft).

6Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw. 7Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwi'r wlad!

8Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff. 9A dyma fe'n dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma! 10Rhaid i ni feddwl beth i'w wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhw'n helpu'n gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc o'r wlad.”

11Felly dyma'r Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel, a'u gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, ac yn gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhw'n adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd i'r Pharo. 12Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni a'u casáu nhw go iawn, 13a'u cam-drin nhw fwy fyth. 14Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth i'r Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhw'n gwneud brics a chymysgu morter ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd.

15Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw, 16“Pan fyddwch chi'n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os mai bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e'n syth; ond cewch adael i'r merched fyw.”

17Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wedi ei orchymyn iddyn nhw. Dyma nhw'n cadw'r bechgyn yn fyw. 18A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw eto, a gofyn “Beth dych chi'n wneud? Pam dych chi'n gadael i'r bechgyn fyw?” 19A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft – maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”

20Felly buodd Duw'n garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhw'n mynd yn gryfach ac yn gryfach. 21Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd.

22Yna dyma'r Pharo yn rhoi gorchymyn i'w bobl: “Mae pob bachgen sy'n cael ei eni i'r Hebreaid i gael ei daflu i'r Afon Nil, ond cewch adael i'r merched fyw.”

Copyright information for CYM